Iechyd meddwl: Llai o amser cyn derbyn triniaeth

  • Cyhoeddwyd
Iechyd meddwl

Mae'r amser fydd rhaid i oedolion â salwch meddwl ddisgwyl cyn derbyn triniaeth yn cael ei ostwng o draean.

Ni ddylai pobl aros mwy na phedair wythnos ar ôl cael asesiad cyntaf, meddai'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Mae hynny bedair wythnos yn llai na'r targed presennol o 12 wythnos.

Ar hyn o bryd mae cleifion fod i gael asesiad iechyd meddwl o fewn pedair wythnos.

Yn dilyn hynny, fe ddylai unigolion gael triniaeth o fewn wyth wythnos. Mae hynny nawr yn cael ei gwtogi i bedair wythnos.

Mae disgwyl i fyrddau iechyd Cymru gyrraedd y targed newydd cyn diwedd mis Mawrth nesaf.

'Triniaeth brydlon'

"Bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu i sicrhau bod triniaeth ar gael yn brydlon," meddai Mark Drakeford.

"Bydd hynny'n sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth arbenigol yn cael y gwasanaethau iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.

"Mae rhai sefydliadau eisoes yn cyrraedd neu'n agos at gyrraedd y targed newydd hwn."

Ond mae'r elusen iechyd meddwl, Gofal, wedi codi cwestiynau ynghylch y targed newydd.

"Rydym yn bryderus bod casglu data cyffredinol yn celu'r amseroedd aros hir y mae rhai pobol yn wynebu am driniaethau seicolegol," meddai rheolwr polisi a materion cyhoeddus y grŵp, Katie Dalton.

"Er enghraifft, fe all rhywun gyrraedd y targed amseroedd aros drwy gael cefnogaeth gan grŵp o fewn 28 diwrnod (pedair wythnos), ond mae'n bosib iddyn nhw fod yn aros naw mis am gyngor un ar un."

Targedau

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei amseroedd aros ar gyfer asesu a thrin iechyd meddwl eisoes yn fwy llym nac yn Lloegr.

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr darged y dylai 75% o oedolion gael triniaeth o fewn chwe wythnos, a 95% o fewn 18 wythnos.

Dan yr hen fesur, roedd 85.5% o gleifion yng Nghymru yn cael eu trin o fewn wyth wythnos o gael eu hasesu.

Mae un allan o bob pedwar o bobl yng Nghymru, rhywbryd yn eu bywydau, yn dioddef o salwch meddwl.