Beth sydd mewn enw?
- Cyhoeddwyd

Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi galw am wneud newid enwau lleoedd Cymru yn drosedd.
Fe wnaeth hi ei sylwadau ar ôl i gwmni o Loegr newid enw Plas Glynllifon i Wynnborn yn eu deunydd marchnata.
Faint ydych chi'n ei wybod am darddiad rhai o enwau lleoedd Cymru? Rhowch gynnig arni. (Mae'r atebion ar waelod yr erthygl!)
1. Sblot
Mae enw un o faestrefi Caerdydd yn deillio o:
a) Yr Hen Gymraeg am 'Sboldaich' sy'n golygu ffos
b) Hen arferiad o ollwng cerrig i'r Afon Tâf i fesur dyfnder
c) O'r Saesneg plot, sef darn o dir
2. Prion
Mae'r pentref yn Sir Ddinbych wedi ei enwi ar ôl:
a) Hen briordy lleol
b) Y gair 'purion', sef perffaith
c) Sant o'r 8fed ganrif
3. Bala
Ystyr enw'r dref ar lan Llyn Tegid yw:
a) Man lle mae afon yn rhedeg allan o lyn
b) Hen air y Llychlynwyr am 'bryn'
c) Gair lleol am wrtaith
4. Solfach
Mae'r pentref ar arfordir Sir Benfro wedi ei enwi ar ôl:
a) Gair Saesneg solace, lle i fynd am gysur
b) Gair 'salw', gwael, di-olwg
c) Cwch bach o'r Oesoedd Canol
5. Clydach
Mae'r pentref ger Abertawe wedi ei enwi ar ôl:
a) 'Clodagh' yr enw Gwyddelig am afon yn rhedeg mewn lle gwastad, caregog
b) Lle sy'n fwy clyd nag Abertawe
c) Hen air lleol am gadach
6. Slebets
Mae enw'r pentref rhwng Arberth a Hwlffordd yn Sir Benfro wedi ei enwi ar ôl:
a) Yr hen air Saesneg bec, sef nant
b) Gwin a oedd yn cael ei gynhyrchu gan fynachod
c) Enwogion o'r Oesoedd Canol oedd yn dod i gamblo
7. Plwmp
Mae'r pentref yng Ngheredigion wedi cael ei enw arferol oherwydd:
a) Fod olion plwm yma ar un adeg
b) Ei fod, yn yr 16eg ganrif, yn fan poblogaidd i bobl Sir Aberteifi i ddatrys anghydfod ac i ddweud eu dweud "yn blwmp ac yn blaen"
c) Pwmp dŵr (ar glos fferm yn wreiddiol)
8. Sgiwen
Mae'r pentref ar gyrion Abertawe wedi ei enwi ar ôl:
a) Llain o dir yn ymyl afon Santes Ciwa
b) Y gair Saesneg skewer
c) Hen air Cymraeg am 'sgiw', sedd bren
9. Cnwclas
Mae'r pentref ym Mhowys wedi ei enwi ar ôl:
a) Dull o ddal anifeiliaid
b) Bryn bach gwyrdd
c) Llu cyntefig o Lychlynwyr ymsefydlodd ym Mrycheiniog a Maesyfed yn y 7fed ganrif
10. Rachub
O ble daeth enw'r pentref yn Nyffryn Ogwen?
a) Chwedl am achub merch o lethrau mynydd Tryfan
b) Tyddyn neu adeilad ym meddiant person, yr + achub (yn y Cyfreithiau Cymreig)
c) Rachuba, offeiriad o ganolbarth Ewrop fu'n cenhadu yn Eryri yn y 13eg ganrif
Atebion:
1. c
2. b
3. a
4. b
5. a
6. a
7. c
8. a
9. b
10. b
I ddysgu mwy am ystyr a tharddiad enwau llefydd yng Nghymru ewch i wefan Cymru y BBC.
(Cafodd y cwis yma ei gyhoeddi gyntaf ar wefan Cymru Fyw ym Mis Hydref 2014)