Delweddau anweddus: Carcharu dyn

  • Cyhoeddwyd
llys

Mae cyn-arweinydd y Sgowtiaid a darlithydd Technoleg Gwybodaeth a ffotograffiaeth wedi ei garcharu am ddwy flynedd ddydd Llun.

Roedd Ben McCarthy wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi eraill o fewn y Sgowtiaid ar ddiogelu plant - ond fe aeth yr heddlu i archwilio ei gartref ym mis Ionawr ar ôl derbyn gwybodaeth.

Daeth swyddogion o hyd i filoedd o ddelweddau anweddus ac roedd cymaint o ddelweddau yn y casgliad fel nad oedd modd categoreiddio pob un.

Roedd y deunydd anweddus yn cynnwys dwy ffilm o ferched yn newid ac roedd y rhain wedi eu ffilmio gan McCarthy ei hun tra roedd yn feistr Sgowtiaid.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod ffilmiau eraill yn dangos merched ysgol, a delweddau o ddillad isaf plant oedd wedi eu ffilmio mewn lleoliadau ger ei gartref.

Delweddau

Cyfaddefodd McCarthy, 40 oed o Bendinas, Wrecsam, iddo wneud delweddau anweddus wedi iddo eu lawrlwytho o'r we, o fod a'r delweddau yn ei feddiant ynghyd â delweddau eithafol o weithredoedd rhyw rhwng pobl ag anifeiliaid, bod yn berchen ar ddelwedd oedd wedi'i wahardd, a dau honiad o sbecian - sef ffilmio merched yn newid yn gudd - gyda'r troseddau'n deillio'n ôl i 2011.

Dywedodd Claire Jones ar ran yr erlyniad bod yr heddlu wedi dod o hyd i 87,232 o ddelweddau - gyda 445,000 o ddelweddau eraill yn parhau heb eu categoreiddio.

Roedd 14 delwedd oedd wedi eu gwahardd, 1.473 o ffilmiau anweddus a chwe delwedd eithafol yn ei feddiant.

Cafodd McCarthy ei garcharu am ddwy flynedd ac fe roddwyd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am ddeng mlynedd.

Cafodd gorchymyn atal niwed rhyw ei gyhoeddi i atal ei ymddygiad yn y dyfodol, ac fe gafodd ei wahardd rhag gweithio gyda phlant.

Troseddau 'difrifol'

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod y troseddau'n rhai difrifol.

"Ar y tu allan roeddech chi'n gwbl normal, ac yn aelod parchus o gymdeithas oedd yn cael ei werthfawrogi.

"Ond yn drist iawn, roedd ganddo chi gyfrinach dywyll, sef diddordeb abnormal a phryderus mewn dod o hyd i, edrych ar, a chadw delweddau o blant ifanc.

"Fyddai rhieni'r plant na'ch cydweithwyr yn y mudiad Sgowtiaid fyth wedi breuddwydio y byddai'r fath ymddygiad yn bosib."

Clywodd y llys nad oedd McCarthy wedi bod mewn cyswllt uniongyrchol gyda'r merched yr oedd wedi ei ffilmio.

Doedd gwraig Mr McCarthy ddim yn ymwybodol o'r hyn yr oedd yn ei wneud ac roedd hi'n credu ei fod mewn sefyllfa lle nad oedd wedi dygymod gyda'r troseddau yr oedd wedi eu cyflawni.