Cyhoeddi rhybudd melyn am niwl
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd tywydd melyn am niwl wedi ei gyhoeddi dros rannau helaeth o Gymru ac fe fydd yn para tan ddydd Mawrth.
Bydd y rhybudd mewn lle hyd at hanner dydd.
Bu oedi i rhai teithwyr oedd yn gobeithio hedfan o Faes Awyr Caerdydd ddydd Llun, wedi i'r maes awyr ddelio gyda theithiau oedd wedi eu gohirio o achos y tywydd ddydd Sul.
Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd y niwl yn dwysáu nos Lun mewn mannau, ac fe fydd yn parhau am gyfnod ddydd Mawrth.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Powys, Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Fynwy.