Marwolaeth wrth i ddyn weldio

  • Cyhoeddwyd
tan

Mae cwêst wedi clywed sut y bu i gyn-weinidog gyda'r Bedyddwyr farw mewn tân mewn sied tra roedd yn weldio.

Cafwyd hyd i gorff David Wynn, 79 oed, tu allan i'r sied ym mhentref Cilcain, Sir y Fflint ar 20 Hydref.

Clywodd y cwêst yn Rhuthun ddydd Llun fod Mr Wynn yn hoffi weldio yn ei amser hamdden ac roedd yn gweithio ar gynllun ar y pryd.

Bydd profion pellach yn cael eu cynnal i achos ei farwolaeth ac fe gafodd y cwêst ei ohirio tan fis Ebrill, pan fydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal.

Fe wnaeth Mr Wynn ymddeol o'r weinidogaeth 13 o flynyddoedd yn ôl wedi iddo wasanaethu Capel Ebeneser y Bedyddwyr yn yr Wyddgrug.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i aelodau'r cyhoedd weld y sied ar dân. Yn dilyn ymchwiliad dywedodd yr heddlu nad oedd ei farwolaeth yn amheus.