Peiriant MRI arloesol i Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd

Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, yw'r ysbyty cyhoeddus cyntaf yn y DU i ddefnyddio sganiwr MRI arloesol.
Mae'r peiriant newydd yn galluogi i bobl sefyll tra'n cael eu harchwilio, gan dawelu ofnau cleifion sy'n dioddef o glawstroffobia. Roedd hyn yn effeithio ar tua un o bob saith claf oedd yn defnyddio'r hen sganiwr lle'r oedd y claf yn gorwedd i lawr tu fewn i'r peiriant.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gobeithio bydd eu buddsoddiad o £740,000 yn lleihau amser disgwyl am sgan yn y gogledd.
Yn ogystal, mae disgwyl i'r sganiwr newydd dorri costau trydan yr ysbyty o £50,000 y flwyddyn.