Gwrthdrawiad aml-gerbyd yn cau'r M4 ger Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
DamwainFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r M4 i'r gorllewin yn ardal Caerdydd wedi cau ar ôl gwrthdrawiad rhwng tancer a fan.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 17:45 dydd Llun, rhwng cyffordd 32 i gyfeiriad Coryton, a chyffordd 33 ar gyfer gwasanaethau gorllewin Caerdydd.

Cafodd un person ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ychydig cyn 19:00.

Mae disgwyl i'r lôn i'r gorllewin fod ar gau dros nos. Mae un lôn i'r dwyrain wedi cau yn ogystal, ac mae oedi mawr i'r ddau gyfeiriad.

Yn ôl gohebydd y BBC Tomos Morgan, mae'n ymddangos fod un cerbyd wedi ei wasgu rhwng y tancer a'r llain ganol.

Dywedodd llygad-dyst arall fod naw cerbyd tân wedi ei basio, ynghŷd â nifer o gerbydau heddlu a beiciau modur.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud eu bod wedi gyrru dau gerbyd ymateb sydyn, un ambiwlans, a meddyg BASICS.

Mae'r tywydd wedi rhwystro ambiwlans awyr rhag cyrraedd y safle.