Gwrthdrawiad M4: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae dyn, gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
O Gaerloyw mae'r dyn 46 oed.
Bu farw dyn 50 oed oherwydd gwrthdrawiad rhwng craen, tancer a char ar yr M4 ger Caerdydd brynhawn Llun.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Cyffordd 32, Coryton, a Chyffordd 33, Gorllewin Caerdydd, tua 17:45.
Fe adawodd y craen y ffordd ar ôl cael ei daro gan y tancer cyn i'r tancer wedyn daro yn erbyn car.
Gyrrwr y craen oedd yr un gafodd ei ladd. Aed â gyrrwr y car Citroen i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Fe ddylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.