Tynnu pêl rygbi oddi ar wal Castell Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r bêl oedd yn ffrwydro o wal Castell Caerdydd i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd, wedi cael ei thynnu allan.
Mae cefnogwyr rygbi wedi bod yn heidio i weld y "bêl yn y wal" a thynnu lluniau ohoni, wrth i wyth o gêmau'r twrnamaint gael eu chwarae yn y brifddinas.
Seland Newydd oedd enillwyr Cwpan Webb Ellis, wedi iddynt guro Awstralia yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn yn Twickenham.
Fe ymddangosodd y bêl yn wal y castell ar y noson cyn i gystadleuaeth Cwpan y Byd ddechrau ddiwedd mis Medi.