Achos heddlu: Cyhuddiad o ddwyn cynilion

  • Cyhoeddwyd
y Ditectif Sarjant Stephen Phillips a'r Ditectif Gwnstabliaid Christopher Evans a Michael StokesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r tri ditectif yn gwadu'r cyhuddiad o ddwyn

Mae myfyriwr o Abertawe wedi dweud wrth lys fod tri ditectif wedi dwyn rhan o'i gynilion yn ystod cyrch ar ei gartref.

Dywedodd Joedyn Luben, 32 oed ac yn astudio'r gyfraith, fod ganddo £77,000 mewn blwch diogel yn ardal Penlan pan ddigwyddodd y cyrch ym mis Ebrill 2011.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, Christopher Evans, 38 o Langennech a Michael Stokes, 35 o Lyn Nedd, yn gwadu dwyn mwy na £30,000.

Mae Mr Luben, sy'n dweud ei fod yn cynilo'r arian ers ei fod yn 16, wedi bod yn sôn am gyrchoedd heddlu ar ei dŷ a thai ei fam a'i frawd ar 1 Ebrill 2011.

Dywedodd ei fod wedi clywed cais ar radio'r heddlu am y rhif i agor y blwch diogel cyn iddo ddweud y rhif wrth un o'r diffynyddion, y Ditectif Gwnstabl Michael Stokes.

Clo'n agor

"Ailadroddodd Mr Stokes y côd lawr y radio," meddai. "Roeddwn i'n gallu eu clywed nhw'n rhoi'r côd i mewn."

Dywedodd ei fod wedi clywed clo'r blwch diogel yn agor ar radio'r heddlu a chlywed un o'r heddweision yn dweud: "Ry'n ni mewn."

Y tro diwethaf y defnyddiodd Mr Luben y blwch oedd y noson cyn y cyrchoedd, pan ychwanegodd £12,000 gafodd wedi iddo werthu car.

Dywedodd Peter Griffiths QC ar ran yr erlyniad fod Mr Luben wedi derbyn siec i ad-dalu'r arian gafodd eu cymryd ar ôl i'r awdurdodau gadarnhau na fydden nhw'n cymryd camau pellach yn ei erbyn.

"Roeddwn i'n amlwg wedi drysu pan welais i'r cyfanswm ar y siec," meddai Mr Luben sy'n honni bod y siec £30,000 yn brin o'r swm gafodd ei gymryd gan yr heddlu.

Mae'r achos yn parhau.