Cwmni tecawê: 280 o swyddi newydd yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd

Bydd y cwmni newydd yn sefydlu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein
Bydd 280 o swyddi'n cael eu creu yng Nghwmbrân gan fenter wedi'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gwasanaeth archebu tecawê ar-lein Kukd.com yn cael ei sefydlu yn y dref wedi i'r cwmni dderbyn pecyn cyllid busnes.
Cant o swyddi fydd yn cael eu creu i gychwyn, gyda 180 arall dros gyfnod o dair blynedd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Bydd y fenter newydd yn creu nifer sylweddol o swyddi amrywiol, gan gynnig swyddi a chyfleoedd am yrfa i gannoedd o bobl."