Teithwyr trên o dde Cymru i Lundain yn wynebu oedi
- Cyhoeddwyd

Mae teithwyr trenau sy'n gwneud y siwrnai o dde Cymru i Lundain ar benwythnosau yn wynebu o leiaf awr yn ychwanegol o daith wrth i Dwnnel Hafren gau oherwydd gwaith adeiladu.
Bydd y twnnel ar gau ar benwythnosau tan 6 Rhagfyr.
Dywedodd Network Rail y byddai gwasanaethau rhwng Caerdydd a Bryste yn cael eu dargyfeirio trwy Gaerloyw.
Roedd y gwaith wedi ei ohirio am gyfnod i osgoi amharu ar Gwpan Rygbi'r Byd.