Darn o gar yn gyfrifol am farwolaeth
- Cyhoeddwyd

Nam ar ddarn o gar oedd yn gyfrifol am farwolaeth Gwen Parry, 73 oed o Flaenau Ffestiniog.
Fe glywodd y cwest i'w marwolaeth fod un o declynnau rheoli tracio'r car wedi rhydu'n ddifrifol ar ôl cael ei osod bum mlynedd yn gynharach.
Bu farw Mrs Parry pan darodd car Vauxhall Astra - oedd yn cael ei yrru gan ei merch - yn erbyn car arall ar yr A470 ger gwesty Abaty Maenan yn Nyffryn Conwy ar 6 Tachwedd y llynedd.
Dywedodd y crwner, John Gittins fod Helen Humphreys, merch Mrs Parry yn gwbl ddiniwed, a bod y dystiolaeth am y nam ar y car golygu nad hi oedd ar fai am farwolaeth ei mam.
Roedd Mrs Humphreys yn gyrru car Mrs Parry o Lanrwst i gyfeiriad Glan Conwy, pan lithrodd y car i ochr anghywir y ffordd wrth iddi geisio troi cornel.
'Fel bod ar rew'
"Ro'n i'n troi'r olwyn eto ac eto, ond roedd o'n dal i lithro. Roedd o fel bod ar rew," meddai.
Fe darodd yr Astra yn erbyn car arall, oedd yn cael ei yrru gan Malcolm Silgirm, gafodd ei anafu'n ddifrifol.
Fe ddywedodd o wrth yr heddlu: "Ro'n i'n teimlo fel crash-test dummy. Roedd y sŵn yn ofnadwy."
Fe gafodd Mrs Parry ei chludo i Ysbyty Gwynedd, ond bu farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Yn ôl arbenigwr, roedd y teclyn rheoli tracio ar un ochr y car - yr un gwreiddiol, gafodd is osod 10 mlynedd yn ôl - mewn cyflwr da.
Fodd bynnag, roedd y teclyn ar ochr arall y car - gafodd ei osod bum mlynedd yn ôl - wedi rhydu'n ddifrifol a thorri, gan achosi i Mrs Humphreys golli rheolaeth ar y car.
Ychwanegodd fod y teclyn wedi ei gynhyrchu yn Nhwrci a'i fewnforio gan FAI Automotive, ac er fod y metelau ar y ddwy ochr yr un fath, doedd yr un â nam arno heb ei drin yn gywir cyn ei beintio,gan achosi iddo rydu.
"Fe fethodd oherwydd roedd o'n rhy wan," meddai.
'Cyflwr anniogel'
Fe ddywedodd Yr Athro Ian Fielden, oedd yn gyfrifol am brofi'r teclyn wedi'r gwrthdrawiad, fod o leiaf pedwar twll ynddo, a na fyddai'r cerbyd wedi gallu ymdopi â newidiadau yn y llywio neu dyllau yn y ffordd.
"Roedd y cerbyd mewn cyflwr anniogel adeg y digwyddiad," meddai.
Dywedodd yr ymchwilydd gwrthdrawiadau, y Cwnstabl Brian Grocott nad oedd cyflymder y cerbyd yn ffactor.
Fe ddywedodd y crwner ei fod wedi cyfeirio'r achos at swyddogion safonau masnach a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond fydd 'na ddim camau pellach yn erbyn gwneuthurwyr y teclyn.
Fe ddyfarnodd fod Mrs Parry "wedi marw mewn gwrthdrawiad ar y ffordd, oherwydd nam mecanyddol".