Andrew RT: Pryder am 'symud tuag yn ôl'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru wedi dweud bod ei fod yn "pryderu" am y ddeddfwriaeth ddrafft am bwerau pellach i Gymru.
Dywedodd Andrew RT Davies nad oedd eisiau "symud tuag yn ôl" oherwydd cynnig bod rhaid i weinidogion Cymru gael caniatâd gweinidogion y DU i ddeddfu'n fwy aml.
Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, mae'r syniad o ymestyn caniatâd gan weinidogion y DU dros gyfreithiau Cymru yn un hynafol.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn credu bod Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb "yn barod i wrando" ar gynigion Mesur Cymru.
'Symud tuag yn ôl'
Fe wnaeth Mr Crabb a Mr Jones gyfarfod ddydd Llun i drafod y mater.
Dywedodd Mr Davies wrth ACau ddydd Mawrth: "Mae gen i a fy nghydweithwyr bryderon am y broses rhoi caniatâd.
"Dydyn ni ddim eisiau symud tuag yn ôl."
Wrth agor y ddadl yn y Senedd, dywedodd Mr Jones mai dyma'r "ddadl bwysicaf ry'n ni wedi ei chael yng Nghymru ers cryn dipyn o amser".