Gwrthdrawiad Penyffordd: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yn Sir y Fflint.
Cafodd un dyn ei anafu ac aed ag ef i Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Fe gafodd dyn arall ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywed yr heddlu iddynt gael eu galw am 19:00 i Benyffordd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Vivaro gwyn a Peugeot 106 glas.