Cwest milwr: Swyddog yn gwadu bwlio
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest fod milwr ifanc wedi bod yn amharchus tuag at uwch swyddog ar y diwrnod y bu iddo farw o orboethi ar ôl cael ei gosbi yn answyddogol drwy wneud ymarfer corff mewn tywydd poeth.
Bu farw'r Preifat Gavin Williams, 22, o Hengoed ger Caerffili ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Cafodd y milwr, oedd yn aelod o'r Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol, ei gosbi yn dilyn sawl digwyddiad wedi iddo fod yn feddw.
Roedd gwres ei gorff yn 41.7C pan aed ag ef i'r ysbyty, o'i gymharu â'r norm o 37C.
Fe wnaeth profion ysbyty ddangos fod olion ecstasi yn ei gorff pan fu farw.
Yn 2008 cafwyd y tri swyddog wnaeth ei gosbi - Sarjant Russell Price, 45 oed, Sarjant Paul Blake, 37 oed, a Corporal John Edwards, 42 oed - yn ddieuog o ddynladdiad.
Clywodd y cwest fod Preifat Williams wedi bod yn yfed y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn cyn ei farwolaeth.
Alcohol
Roedd ar ddyletswydd y diwrnod canlynol, ond roedd arogl alcohol arno, ac roedd yn gwisgo fest.
Cafodd orchymyn i ddod gerbron uwch-swyddogion ar y dydd Llun.
Clywodd y cwest yng Nghaersallog (Salisbury) fod y Preifat Williams ar y pryd yn wynebu achos llys am ymosod.
Roedd yn absennol o'i waith ar ddiwrnod ei farwolaeth. Yn y diwedd fe wnaeth swyddogion ddod o hyd iddo yn cuddio yn yr ystafell ymolchi.
Aed ag ef gerbron Sarjant Wayne Clarke, is-bennaeth y platŵn.
Dywedodd Sarjant Clarke wrth y cwest fod Preifat Williams yn gwisgo dillad pob dydd pan ddaeth i weld, ac wedi cerdded tuag ato mewn modd hamddenol.
"Rwy'n cofio ei anfon yn ôl allan, mae'n debyg i mi regi, a dweud iddo drio gwneud hynny unwaith eto.
"Gwnaeth yr un peth eto, ac fe wnes i regi arno a gofyn beth oedd o'n drio ei wneud."
"Dywedais wrtho, 'roeddet ar goll, ddim wrth dy waith, dwi wedi bod i Gymru i chwilio amdanat tra bod ti'n cuddio.
'Rwyf hefyd wedi clywed i ti ddefnyddio chwistrellydd diffodd tan a chwistrellu gwesteion rhai o'r uwch-swyddogion. Be wy ti'n drio ei wneud?"
Gwadu bwlian
Dywedodd y Sarjant wrth y cwest iddo regi sawl gwaith, ond nad oedd hynny mewn modd ymosodol ond yn hytrach mewn modd oedd yn gofyn am atebion.
Gwrthododd honiad ei fod wedi bod yn bwlio.
Dywedodd iddo roi gorchymyn i ddau filwr arall fynd a'r preifat yn ôl i'w ystafell, ac iddo newid yn ôl i'w lifrau swyddogol.
Dyna'r tro olaf iddo ei weld, meddai.
Mae rhai milwr wedi disgrifio gweld y Preifat Williams yn cael ei orfodi i wneud ymarfer corff dwys a hynny dan orchymyn corporal Edwards.
Yn ôl y llygad-dystion roedd y milwr yn chwysu ac yn edrych yn hynod flinedig.
Yna aed a Preifat Williams i'r gampfa, lle'r oedd yn cwyno am boenau i'w stumog cyn iddo gwympo i'r llawr.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- 2 Tachwedd 2015
- 3 Tachwedd 2015