Bale, Ramsey a Robson-Kanu allan o garfan Cymru
- Cyhoeddwyd

Nid yw Gareth Bale, Aaron Ramsey na Hal Robson-Kanu wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu'r Iseldiroedd yr wythnos nesaf.
Mae'r tri wedi eu hanafu ac ni fyddan nhw'n chwarae yn y gêm gyfeillgar.
Dim ond 45 munud y mae Bale wedi ei chwarae i'w glwb, Real Madrid, ers 13 Hydref, a hynny oherwydd anaf.
Cafodd Ramsey ei anafu wrth chwarae i Arsenal yn erbyn Bayern Munich ar 20 Hydref.
Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, wedi beirniadu tîm rheoli Cymru am ddewis Ramsey i chwarae yn erbyn Andorra, er bod Cymru wedi sicrhau eu lle yn Euro 2016 yn barod.
Yn y gêm honno yn erbyn Andorra y cafodd Robson-Kanu yr anaf i'w ffêr sy'n golygu na fydd ar gael i herio'r Iseldiroedd.
Does dim lle chwaith i Ashley Richards ond mae'r amddiffynnwr Paul Dummett yn ôl yn y garfan, ac mae'r ymosodwr Tom Bradshaw hefyd wedi ei gynnwys am y tro cyntaf.
Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Tachwedd.
Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Daniel Ward (Aberdeen) , Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle).
Amddiffynwyr: Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Bromwich Albion), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers), Paul Dummett (Newcastle United).
Canol-cae: Joe Ledley (Crystal Palace), Joe Allen (Lerpwl), David Vaughan (Nottingham Forest), Emyr Huws (Wigan Athletic - ar fenthyg i Huddersfield Town), Jonathan Williams (Crystal Palace, ar fenthyg i Nottingham Forest), Andy King (Caerlŷr), David Edwards (Wolverhampton Wanderers).
Ymosodwyr: David Cotterill (Birmingham City), Tom Lawrence (Caerlŷr - ar fenthyg i Blackburn Rovers), Tom Bradshaw (Walsall), Simon Church (Milton Keynes Dons), Sam Vokes (Burnley).