Beirniadu cynllun Burberry ar ôl cau ffatri Treorci
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun cwmni dillad Burberry i agor ffatri newydd yn Sir Efrog yn dangos mai "esgusodion" oedd y rhesymau am gau ffatri yn ne Cymru yn 2007, medd Aelod Seneddol.
Mae Burberry yn buddsoddi £50m i agor ffatri newydd yn Leeds, fydd yn creu tua 200 o swyddi.
Cafodd ffatri'r cwmni yn Nhreorci ei chau yn 2007, gyda cholled 300 o swyddi, oherwydd nad oedd y safle yn "ymarferol yn fasnachol", a dywedodd y cwmni eu bod am symud y gwaith dramor.
Yn ôl AS y Rhondda, Chris Bryant, "esgusodion" oedd y rhesymau i gau'r ffatri yng nghymoedd y de.
Dywedodd Mr Bryant: "Dwi'n hynod falch bod Burberry yn gwneud cystal, ond dwi'n flin bod uwch reolwyr wedi gwneud y penderfyniad i adael y gweithlu ffyddlon yn Nhreorci.
"Mae'n ymddangos bod yr esgusodion am y costau rhatach o weithio dramor yn ddim mwy na hynny - esgusodion."
Dan gynllun Burberry, bydd safleoedd yn Castleford a Keighley yn cau, a bydd 770 o staff yn symud i'r safle newydd yn Leeds.