Gyrwyr Trenau Arriva Cymru i streicio dros gyflogau
- Cyhoeddwyd

Bydd gweithwyr Trenau Arriva Cymru yn cynnal streic 48 awr yr wythnos nesaf, oherwydd anghydfod am gyflogau.
Dywedodd Undeb yr RMT y byddai gyrwyr yn streicio ar 12 a 13 Tachwedd ar ôl i drafodaethau fethu a datrys yr anghydfod.
Yn ôl yr ysgrifennydd cyffredinol, Mick Cash, roedd y cwmni yn "anfodlon" rhoi cynnig tâl digonol.
Dywedodd bod pwyllgor yr undeb "wedi ystyried y mater ac yn adnabod anfodlonrwydd y rheolwyr i ddatrys yr anghydfod".
Ychwanegodd bod y pwyllgor "yn anhapus iawn gyda'r modd y mae'r cwmni wedi ymddwyn drwy gydol yr anghydfod".
Dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Trenau Arriva Cymru, Gareth Thomas: "Rydyn ni wedi cymryd cam ymlaen tuag at gyflawni rhai o ofynion yr undeb ac fe fyddwn yn parhau gyda'n trafodaethau'r wythnos yma gyda'r gobaith o gyrraedd datrysiad sy'n bodloni'r ddwy ochr."
13 Tachwedd - nos Wener - yw'r noson y mae tîm pêl-droed Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.