Tri'n euog o gynllwyn heroin £5m

Llys y Goron Caerdydd
Image caption Llys y Goron Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu cael yn euog o gynllwynio i gyflenwi gwerth £5m o heroin.

Cafodd Shazia Ahmad a Wasim Ali o Gasnewydd a Zawed Malik o ardal Manceinion eu harestio ar ôl i'r heddlu ddarganfod dros 40kg o'r cyffur dosbarth A.

Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw'n cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.

Mae'r rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd yn dal i ystyried eu dyfarniad yn achosion tri diffynnydd arall, sy'n gwadu cynllwynio i gyflenwi heroin.