Dadorchuddio cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru
- Cyhoeddwyd

O'r chwith i'r dde; Siwan Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Eisteddfod, Aled Llŷr Davies, gwneuthurwr y gadair, Idris Evans, Cig Oen Maethlon a Steffan Prys Roberts, Cadeirydd CFfI
Mae'r gadair ar gyfer bardd neu lenor buddugol Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2015 wedi cael ei dadorchuddio, a hynny ychydig dros bythefnos cyn i'r Eisteddfod gael ei chynnal.
Cafodd y gadair ei chreu gan saer ifanc o ardal Meirionnydd, Aled Llŷr Davies, a Meirionnydd yw'r sir sydd yn noddi'r Eisteddfod eleni.
Yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Bryncrug, mae Aled yn y brifysgol yn astudio ar y funud, ond yn ei amser sbâr fe lwyddodd i greu'r gadair ar gyfer yr Eisteddfod.
Bydd y bardd neu'r llenor buddugol yn cael cadw'r gadair yn dilyn ennill gyda'u gwaith yn yr Eisteddfod ar 21 Tachwedd yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth.