Cyflenwad dŵr wedi'i adfer yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae holl gartrefi a busnesau gafodd eu heffeithio gan bibell ddŵr wedi torri yn Sir Benfro wedi cael eu cyflenwad yn ôl, medd Dŵr Cymru.
Dywedodd y cwmni fore Gwener bod staff wedi gweithio trwy'r nos i orffen y gwaith o drwsio'r bibell.
Roedd y broblem wedi effeithio ar filoedd o bobl ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Fe wnaeth Dŵr Cymru ymddiheuro am y broblem a diolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar.
Roedd Dŵr Cymru wedi bod yn dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid
Ffynhonnell y llun, Google
Fe wnaeth y bibell dorri ger safle trin dŵr Llechryd