Pallial: Cyhuddiadau ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Gordon Anglesea
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gordon Anglesea ei arestio fel rhan o Ymgyrch Pallial

Mae Ymgyrch Pallial wedi cyhoeddi bod dyn 78 oed o ogledd Cymru yn wynebu tri chyhuddiad pellach o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd Gordon Anglesea, cyn uwch-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru o Hen Golwyn, ei gyhuddo ddoe. Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â bachgen o dan 16 oed, a honnir i'r troseddau ddigwydd rhwng 1982 a 1983.

Cafodd Mr Anglesea ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos yn llys ynadon Yr Wyddgrug ar 17 Tachwedd.

Ym mis Gorffennaf eleni cafodd Gordon Anglesea ei gyhuddo o saith trosedd rhyw arall. Honnir i'r troseddau yna ddigwydd yn erbyn tri bachgen oedd rhwng 11 ac 16 oed, a hynny rhwng 1979 a 1987.

Mae o bellach yn wynebu cyfanswm o ddeg cyhuddiad.