Gwyliau cerdd 'yw'r prif beth i artistiaid newydd'
- Cyhoeddwyd

Bydd Cynhadledd y Gwyliau Cerddorol yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Mae'r digwyddiad dau ddiwrnod, sy'n cael ei drefnu gan Gymdeithas y Gwyliau Annibynnol (AIF), yn ddathliad o gyfraniad gwyliau cerdd i'r diwydiant.
Bydd tua 50 o bobl yn annerch y gynhadledd, ond prif siaradwr y digwyddiad eleni yw'r DJ Huw Stephens.
Mae disgwyl iddo ddweud mai gwyliau cerddorol yw'r "prif beth" i artistiaid newydd wrth geisio cael eu gwaith wedi'i glywed.
'Rôl bwysig'
Ymunodd Huw gyda BBC Radio 1 yn 17 oed, ac mae wedi cyflwyno ar radio a theledu o wyliau ledled Prydain yn ogystal ag ysgrifennu i sawl cylchgrawn.
Roedd yn un o sefydlwyr Gŵyl Sŵn, fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn dilyn y gynhadledd ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd.
Roedd yn cydnabod ei bod yn anrhydedd enfawr cael bod yn brif siaradwr y gynhadledd eleni, a dywedodd wrth BBC Cymru Fyw:
"Rwy'n gobeithio sôn am rôl bwysig gwyliau mawr a bach wrth hybu cerddoriaeth newydd.
"Wrth gwrs mae'r cyfryngau fel teledu a radio yn bwysig i artistiaid newydd, ond bellach dwi'n credu taw gwyliau cerddorol yw'r prif beth i artistiaid newydd, ac mae'r gwyliau yma hefyd yn bwysig i'r economi."
Mae cynllun Gorwelion, sy'n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn rhoi cyfle i'r artistiaid sy'n cael eu derbyn i'r cynllun berfformio mewn ystod eang o wyliau cerddorol ar draws Prydain dros y flwyddyn.
Bydd rhai o artistiaid Gorwelion 2015 yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd dros y penwythnos, yn ogystal â pherfformio yn y gynhadledd ei hun.
Dyma'r eildro i'r gynhadledd gael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac fe ddaeth dros 400 o gynrychiolwyr o'r diwydiant i ddigwyddiad y llynedd.
Gyda Gŵyl Sŵn (Caerdydd), Gŵyl Rhif 6 (Portmeirion, Gwynedd) a Gŵyl y Dyn Gwyrdd (Bannau Brycheiniog) ymhlith y gwyliau sy'n cael eu cynnal yng Nghymru sydd wedi ennill gwobrau yn ddiweddar.