Trafod argyfwng y diwydiant dur yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Economi wedi cynnal cyfarfod brys gyda chwmnïau cynhyrchu dur a'r undebau llafur oherwydd pryderon am ddyfodol y diwydiant.
Roedd y cynrychiolwyr ym Mae Caerdydd yn trafod strategaeth sut i wneud y diwydiant dur yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.
Galwodd y cwmnïau a'r undebau am ostwng trethi busnes ond dywedodd Edwina Hart y byddai rhaid sicrhau na fyddai gostyngiad yn torri rheolau Ewropeaidd.
Dywedodd: "Tra bod llawer o'r ffactorau a all ddylanwadu ar y diwydiant tu allan i reolaeth llywodraeth Cymru, wrth weithio gyda'r diwydiant rwy'n credu bod yna lot mwy y gallwn ni wneud i gefnogi parhad y diwydiant dur yng Nghymru.
'Rhaid gweithredu'
"Does yna ddim digon yn cael ei wneud ar lefel Brydeinig felly mae'n rhaid i ni weithredu nawr er mwyn sicrhau dyfodol ymarferol i'r diwydiant dur sy'n allweddol i'n ffyniant economaidd yn y dyfodol."
Dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru Daniel Davies: "Mewn cyfarfod y bore 'ma - uwchgynhadledd roedd y Cynulliad yn ei galw hi - fe alwodd cwmnïau dur ac undebau llafur am ostyngiad yn y dreth.
"Dyma un o'r costau mawr sy'n wynebu'r diwydiant, medd y cwmnïau, cost sy'n cyfrannu at argyfwng yn y diwydiant dur.
"Ar ôl y cyfarfod fe ddywedodd Edwina Hart ei bod hi'n barod i wrando ar eu gofynion nhw ... Wrth gwrs, mae hyn yn digwydd mewn cyfnod o doriadau felly mae'n ddigon posib na fydd Llywodraeth Cymru'n gallu fforddio torri'r dreth."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymreig undeb Unite Andy Richards: "Mae ein haelodau ni'n croesawu ymateb cyflym y llywodraeth yn trefnu bod cwmnïau a chynrychiolwyr undeb yn trafod strategaeth.
"Tra bod y diwydiant wedi ac yn wynebu heriau, rydyn ni'n optimistaidd y gallwn ni i gyd, y llywodraeth, y cwmnïau a'r undebau, ddatblygu a gweithredu strategaeth fydd yn diogelu swyddi a chryfhau'r diwydiant yn y dyfodol."
Pryderon
Mae miloedd o swyddi wedi eu colli mewn gweithfeydd ers wythnosau.
Mae pryderon y gallai 250 o swyddi fynd yn Llanwern, ger Casnewydd, wrth i gwmni dur Tata roi'r gorau i'r safle.
Yn ôl undebau, mae swyddi dan fygythiad yn safle'r cwmni yn Shotton hefyd.
Fe aeth gweithwyr dur o dde Cymru i San Steffan yr wythnos diwethaf gan alw ar Lywodraeth y DU i weithredu i achub y diwydiant.
Dywedodd Daniel Davies: "Does dim llawer y gall Llywodraeth Cymru wneud ynglŷn â chost ynni chwaith. Dyma un o gwynion mawr arall y diwydiant. Maen nhw'n dweud eu bod yn talu llawer mwy am ynni ym Mhrydain na chwmnïau yn Ffrainc a'r Almaen.
"Y cyfan y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw ymgyrchu o blaid y diwydiant a cheisio rhoi pwysau ar San Steffan. "