Menyw wedi marw a dyn mewn cyflwr difrifol yn Hengoed
- Cyhoeddwyd

Mae menyw wedi marw ac mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i'r ddau gael eu darganfod yn anymwybodol mewn tŷ yn sir Caerffili.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r eiddo yn Stryd Davies, Hengoed, am tua 08:00 ddydd Mercher.
Roedd y fenyw, oedd yn 62 oed, wedi ei darganfod yn farw yn y fan a'r lle, ac mae dyn 63 oed wedi ei gludo i Ysbyty Tywysog Cymru ym Merthyr Tudful lle mae mewn cyflwr difrifol.
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus ac mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.