Cyhuddo cynghorydd o Wynedd o flacmel
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd sir wedi mynd gerbron llys i wynebu honiad ei fod wedi mynnu £7,500 gan ŵr busnes drwy flacmel.
Fe honnir fod Christopher James O'Neal, 36 oed ac yn gynghorydd gyda Chyngor Tref Bangor a Chyngor Gwynedd, wedi bygwth datgelu llun o'r dyn, sydd â'i enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw, y tu allan i'w fusnes.
Mae Mr O'Neal yn gwadu'r cyhuddiad sydd yn dyddio'n ôl i 27 Rhagfyr, 2013.
Dywedodd y bargyfreithiwr Owen Edwards ar ran yr erlyniad wrth y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod O'Neal wedi targedu'r gŵr busnes, cyn i yntau fynd at yr heddlu.
Cyhuddodd yr erlyniad Mr O'Neal o fynnu taliad o £7,500 neu fe fyddai llun o'r dyn yn ymddangos yn y wasg mewn erthygl yn disgrifio troseddwr rhyw yn rhedeg busnes.
Fe wnaeth yr heddlu olrhain yr alwad ffôn i ffôn symudol partner y diffynnydd ac fe gyfaddefodd Christopher O'Neal iddo wneud yr alwad, ond fe wadodd ei fod wedi mynnu taliad.
Byd cyfrinachol
Wrth gael ei holi, dywed yr erlyniad bod y diffinydd wedi creu stori gymhleth ble roedd yn awgrymu ei fod yn gweithredu mewn byd cyfrinachol fel James Bond, ac y byddai'n derbyn taliadau o ddegau o filoedd o bunnoedd am luniau bobl fel yr achwynydd.
"Ond yn bell o fod yn James Bond, roedd yn rhedeg cwmni diogelwch - mae'n ymddangos bod ganddo ddyledion - ac yn darparu staff i ddigwyddiadau a chlybiau nos", meddai Mr Edwards.
Roedd Mr O'Neal yn dweud ei fod wedi ffonio'r dyn fel rhan o waith ymchwil cudd ar ran cleient dienw, ac nad oedd wedi mynnu taliad ar unrhyw adeg.
Fe honnir ei fod wedi defnyddio'r enw Steve Williams yn ystod yr alwad.
Roedd yr achwynydd wedi dweud wrtho nad oedd ganddo arian, ond bod Mr O'Neal wedi dweud wrtho fod ganddo gar go lew. Dywed yr erlyniad fod tyst wedi clywed yr alwad ar linell ffôn arall.
'Chwalu busnes'
Wrth roi tystiolaeth dywedodd y dyn busnes fod y dyn oedd wedi ei ffonio eisiau arian er mwyn aros yn dawel.
"Dywedodd ei fod eisiau £7,500 i aros yn dawel neu fe fyddai'n mynd at y papurau a chael fy llun ar flaen papur The Sun a chwalu fy musnes", dywedodd wrth y rheithgor.
Wrth groesholi'r dyn busnes, dywedodd y bargyfreithiwr John Philpotts ar ran yr amddiffyniad fod y diffynnydd wedi defnyddio ei enw iawn pan aeth i ymweld â'r busnes fel dyn oedd gyda diddordeb ei brynu ar achlysur blaenorol, ac roedd wedi darparu ei rif ffôn.
Clywodd y llys Mr O'Neal yn dweud bod cleientau'n gofyn iddo gael lluniau ar gyfer y wasg, ac y gallai dderbyn rhwng £10,000 a £200,000 amdanyn nhw.
Pwysleisiodd nad oedd ei waith i gyd yn dryloyw. Er enghraifft byddai weithiau'n cael cais gan asiant ar ran cleient anhysbys yn gofyn iddo gael lluniau ar gyfer papurau newydd neu gylchgronau.
Mae'r achos yn parhau.