Dynes o Lanelli 'yn nerfus' yn Sharm el-Sheikh
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Lanelli yn dweud ei bod "yn nerfus" yn Sharm el-Sheikh ar ôl i'r DU stopio awyrennau rhag hedfan rhwng Prydain a'r maes awyr yn Yr Aifft wedi trychineb awyren dros y penwythnos.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod "posibilrwydd sylweddol" mai bom oedd achos y digwyddiad, laddodd y 224 o bobl oedd ar yr awyren i Rwsia.
Dywedodd Lesley-Ann Evans nad oedd hi wedi clywed os bydd modd iddi ddychwelyd adref ddydd Sadwrn fel oedd hi'n bwriadu.
Mae swyddogion yn gweithio gyda chwmnïau awyrennau i drefnu i ddod â thwristiaid o'r DU adref.
Mae arbenigwyr o'r DU yn asesu systemau diogelwch wedi'r digwyddiad.
'Oedi'
Roedd Ms Evans wedi wynebu oedi ym Maes Awyr Gatwick yn dilyn y drychineb ddydd Sadwrn.
"Roedden ni'n barod i fynd ar yr awyren ac fe gafodd ei gyhoeddi bod rhywbeth wedi digwydd ac y bydden ni'n wynebu oedi," meddai.
"Yn amlwg, fe aeth pawb ar y wê i geisio darganfod beth oedd wedi digwydd. Roedd pawb yn siarad am y digwyddiad ac fe gafodd ei gyhoeddi'n swyddogol yn hwyrach.
"Dyma ein tro cyntaf yn yr Aifft a ry'n ni i gyd ychydig yn nerfus."
Dywedodd y llywodraeth bod awyrennau wedi cael eu gohirio gan fod "mwy o wybodaeth wedi dod i'r amlwg".