Scott Baldwin a James King yn arwyddo cytundebau deuol

Scott Baldwin a James King Image copyright Undeb Rygbi Cymru

Scott Baldwin a James King o'r Gweilch yw'r chwaraewyr diweddaraf i arwyddo cytundebau deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae'r newyddion yn golygu bod 14 o chwaraewyr nawr ar gytundebau deuol gyda'r undeb.

Mae Baldwin wedi ennill 15 cap rhyngwladol, ac ef ddechreuodd i Gymru fel bachwr ym mhob gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Roedd y rheng-ôl King hefyd yn rhan o'r garfan ar gyfer y bencampwriaeth, wrth iddo ennill ei seithfed cap yn y fuddugoliaeth yn erbyn Uruguay.

Mae Baldwin wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd, tra bo King wedi arwyddo am dair blynedd.

Ar gytundeb deuol, mae Undeb Rygbi Cymru yn talu 60% o gyflog y chwaraewyr, tra bo'r rhanbarthau'n talu'r gweddill.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: "Mae'r ddau chwaraewr wedi bod yn rhan bwysig o'n carfan Cwpan Rygbi'r Byd, ac fel dynion ifanc ar fin cyrraedd blynyddoedd gorau eu gyrfaoedd, fe fyddan nhw'n rhan allweddol o ddyfodol tîm Cymru."