Gyrwyr bysiau 'wedi rhybuddio' am beryglon ffordd

  • Cyhoeddwyd
Daniel Foss
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Daniel Foss ar ôl cael ei daro gan fws ar Ffordd y Brenin ym mis Medi 2013

Mae cwest yn Abertawe wedi clywed bod gyrwyr bysiau wedi rhybuddio Cyngor Abertawe y gallai rhywun farw ar ffordd beryglus a bod y rhybudd ddwy flynedd cyn i ddyn gael ei daro a'i ladd.

Bu farw Daniel Foss, 37 oed o Benrhyn Gŵyr, ar 24 Medi 2013 wedi iddo gamu i lwybr bws ar Ffordd y Brenin yn y ddinas.

Clywodd y cwest bod cwmni First Cymru wedi anfon llythyr at y cyngor yn galw am osod rhwystrau ar y ffordd "cyn i rywun gael ei ladd".

Fe gafodd system unffordd ei chyflwyno ar y lôn yn gynharach ym mis Tachwedd.

Newidiadau

Dywedodd Mark Thomas o adran traffig a ffyrdd y cyngor fod dau archwiliad wedi awgrymu newidiadau, gan gynnwys gosod rhwystrau a newid lliw'r tarmac yn y lonydd bysiau a bod hyn yn ystod y broses o gynllunio'r ffordd chwe blynedd yn ôl.

Mae nifer o wrthdrawiadau wedi bod ar y ffordd dros y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Mawrth, bu farw Sarjant Louise Lucas, 41 oed, ar ôl cael ei tharo gan fws ar y ffordd.

Mae'r cwest yn parhau.