Dim cwest newydd i farwolaeth E. coli Mason Jones
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni bachgen pump oed fu farw yn dilyn achos o E. coli yn ne Cymru wedi clywed na fydd y cwest i'w farwolaeth yn cael ei ailagor.
Bu farw Mason Jones yn 2005 ar ôl dal haint E. coli 0157 ac mae ei rieni, Sharon Mills a Nathan Jones, wedi brwydro ers hynny i geisio profi ei fod wedi ei ladd yn anghyfreithlon.
Yn dilyn yr achos fe ddywedodd yr arbenigwr, yr Athro Hugh Pennington, bod yr haint wedi dechrau mewn busnes cigydd o Ben-y-bont ar Ogwr, John Tudor a'i Feibion.
Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus, fe wnaeth ddisgrifio "methiannau difrifol iawn" yn rhai o agweddau gwaith y cwmni.
Ym mis Gorffennaf 2007 cafodd pennaeth y cwmni, John Tudor, ei garcharu am flwyddyn ar ôl cyfaddef i saith achos o dorri rheolau hylendid bwyd.
Ar y pryd, fe ddaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn Mr Tudor am ddynladdiad.
Cwest
Yn dilyn cwest ym mis Tachwedd 2010 fe wnaeth crwner Gwent, David Bowen, gasgliadau am farwolaeth Mason Jones, ond fe wrthododd dyfarnu achos o farwolaeth anghyfreithlon.
Cafodd yr achos ei ailagor ac fe ddaeth bargyfreithiwr amlwg, Mark Heywood QC, i'r casgliad bod tystiolaeth yn bodoli i ddangos fod Mr Tudor yn gwybod fod math 0157 o E. coli yn gallu bod yn farwol.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Alison Saunders, ymddiheuro'n ddiweddarach i rieni Mason Jones gan dderbyn bod digon o dystiolaeth o esgeulustod dynladdiad difrifol i gael ei gynnig gerbron rheithgor.
'Dyfarniad cywir'
Aeth y rhieni i'r Uchel Lys fis diwethaf i ofyn i'r llys i orchymyn i gwest Mason gael ei ail-agor, ond fe ddywedodd yr Arglwydd Ustus Elias ddydd Iau na fyddai hynny'n digwydd.
Dywedodd y barnwr bod y dyfarniad naratif gwreiddiol yn un cywir o'r dystiolaeth oedd wedi'i gyflwyno, ac nid oedd gwall wedi ei wneud o ran y gyfraith.
Roedd yr oedi cyn herio dyfarniad y crwner yn "sylweddol iawn" ac nid oedd y barnwr o'r farn y byddai ailagor y cwest o ddiddordeb i gyfiawnder.