Cwest: Pennaeth am weld milwr 'yn boeth a chwyslyd'
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest fod pennaeth barics, lle bu farw milwr ifanc, am weld milwr yn ei swyddfa "yn boeth ac yn chwyslyd".
Roedd yr Is-Gyrnol Mark Davis wedi gofyn i'w gydweithwyr ddod â'r Preifat Gavin Williams ato y diwrnod y bu farw o achos gorboethi.
Roedd y preifat 22 oed o Hengoed ger Caerffili yn aelod o Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol.
Dywedodd yr is-gyrnol wrth y cwest ei fod wedi cymryd gormod o ddiddordeb yng nghosb y milwr a'i fod yn difaru rhai o'i benderfyniadau y diwrnod hwnnw.
Ond dywedodd wrth y llys yng Nghaersallog na welodd unrhyw un yn cam-drin Preifat Williams.
Bu farw ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
'Codi cywilydd'
Dywedodd y crwner, Alan Large, fod y milwr wedi cyrraedd yn feddw y bore dan sylw ac wedi bod yn dreisgar ag aelod o staff. Roedd hefyd wedi chwistrellu gwesteion yr is-gyrnol gyda diffoddydd tân.
Dywedodd yr is-gyrnol ei fod yn "flin" gyda'r milwr oherwydd ei ymddygiad.
"Ro'n i'n teimlo ei fod wedi codi cywilydd ar ein catrawd", meddai.
Am 10:24, meddai, anfonodd e-bost at ei gydweithwyr yn esbonio y byddai'n disgyblu'r preifat am fod yn absennol heb ganiatâd, am fod yn dreisgar ag uwch swyddog ac am fod yn feddw.
Pan ofynnodd y crwner iddo am y broses ddisgyblu, dywedodd fod achos Preifat Williams "yn gofyn am fwy o gosb nac achos arferol".
Ond cyfaddefodd na ddylai fod wedi cymryd diddordeb personol yn y mater ac y dylai fod wedi gofyn i rywun arall ddelio ag ymddygiad y milwr.
'Cyhuddiadau'
Gofynnodd y crwner i'r is-gyrnol esbonio beth oedd ei fwriad pan ofynnodd i gael gweld y milwr "yn boeth ac yn chwyslyd".
"Ro'n ni angen dweud wrtho ein bod ni am ddwyn cyhuddiadau yn ei erbyn," meddai.
"Dydw i ddim yn gwybod pam y defnyddiais i'r geiriau hynny. Eisiau iddo gael ei fartsio ata' i oeddwn i."
Pan holodd y crwner a oedd yr is-gyrnol yn disgwyl gweld y preifat yn boeth a chwyslyd yn gorfforol, atebodd: "R'on i eisiau ei weld o mewn sefyllfa wan."
Difaru
Dywedodd nad oedd y milwr yn ymddangos yn boeth a chwyslyd ac nad oedd yn amau ei fod wedi cael ei gam-drin.
Ychwanegodd fod Preifat Williams yn edrych fel petai'n difaru.
"Roedd yn gwybod ei fod mewn trafferth," meddai.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- 4 Tachwedd 2015
- 3 Tachwedd 2015
- 2 Tachwedd 2015