Parti pen-blwydd arbennig Bois y Frenni
- Cyhoeddwyd

Yn Neuadd Bentref Boncath ar 6 Tachwedd 1940 roedd perfformiad cyhoeddus cyntaf Bois y Frenni o dan arweiniad WR Evans.
Saith-deg pum mlynedd yn ddiweddarach fe fydd Bois y "grug a'r adar mân" yn dychwelyd i Foncath ar gyfer y cyntaf o dri cyngerdd i nodi pen-blwydd arbennig.
Cafodd y côr ei sefydlu yn nyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd gan WR Evans, brodor o Fynachlog-ddu wedi ei fagu yn ffermdy Glynsaithmaen yn y pentref ar lethrau'r Preselau.
Roedd yn brifathro ar y pryd yn Ysgol Bwlch-y-groes ac mae'n debyg taw'r prif gymhelliad am sefydlu Bois y Frenni oedd codi ysbryd pobl yn yr ardal a darparu adloniant ysgafn mewn cyfnod anodd.
Bois y Frenni yn perfformio
Mae rhai o ganeuon Bois y Frenni, sydd yn cael eu canu hyd heddiw, yn adlewyrchu'r cyfnod pan gafodd y gerddoriaeth a'r geiriau eu cyfansoddi.
Er enghraifft, mae'r "Cwtsh Dan Stâr" yn cyfeirio at ddianc "rhag y bom":
"Mae gennyf loches rhag y bom,
Cwtsh dan Stâr, cwtsh dan stâr,
Lle rhed y wraig, a fi a'r pom,
Cwtsh bach net dan stâr.
Caf yno lonydd rhag pob sŵn
Rhag eroplên a chyfarth cŵn..."
Fe fydd Bois y Frenni yn perfformio ym Moncath ar 6 Tachwedd 2015, union 75 mlynedd ers y cyngerdd cyntaf ym Moncath, gyda chyngherddau wedi eu trefnu ym Maenclochog a Chrymych yn ystod mis Tachwedd.
Dwy gantores leol - Hannah Murray a Ffion Phillips - fydd yn ymuno yn y dathliadau.
Mae Cadeirydd Bois y Frenni, Cefin Vaughan, sy'n bostmon, wedi dweud taw rhan o'r apêl oedd "canu a mynd ar lwyfan heb bwyse ... dim côr y'n ni ... ni'n barti o ddynion sy'n mynd ar y llwyfan a chanu hen ganeuon a ni'n enjoio fel crowd o ffrindiau".
'Bach o sbort'
Dywedodd Denzil Thomas, aelod hynaf Bois y Frenni, ei fod yn falch bod y Bois yn dal i ganu.
"Sim y pethe 'ma i gael rhagor ... dim parti cystadlu yw e ond parti i enjoio, canu a rhoi bach o sbort i bobol".
Mae Llyr John wedi bod yn canu gyda'r Bois ers 1999.
Roedd y parti wedi goroesi am fod "pobol dal eisiau clywed yr hen ganeuon gafodd eu perfformio 75 mlynedd yn ôl ...wen nhw'n sbort pyr'nu ... ac maen nhw'n dal i enjoio nhw nawr".