Methu penodi cadeirydd newydd i'r Cyngor Celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Scene from Mametz
Disgrifiad o’r llun,
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei chyllido gan y Cyngor Celfyddydau

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â phenodi cadeirydd newydd i Gyngor Celfyddydau Cymru, gall BBC Cymru Fyw ddatgelu.

Roedd dyddiad cau y swydd ddechrau mis Gorffennaf, ond ni chafodd y cyfweliadau eu cynnal ym mis Medi fel oedd fod i ddigwydd.

Cafodd tri ymgeisydd le ar y rhestr fer, ond fe dynnodd dau eu henwau yn ôl.

Fe fydd y cadeirydd presennol, yr Athro Dai Smith, yn ildio'r awenau ym mis Mawrth 2016 wedi dros naw mlynedd yn y swydd.

Y Cyngor Celfyddydau yw'r corff sy'n gyfrifol am gyllido'r celfyddydau yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ffyddiog y bydd olynydd yn ei le mewn amser.

'Siomedig'

Mynegodd y cyn-Weinidog Diwylliant Llafur, John Griffiths, ei siom gyda'r sefyllfa.

Dywedodd Aelod Cynulliad Llafur Dwyrain Casnewydd: "Mae hyn yn siomedig, ond mae hi'n bwysig cael y person iawn yn y swydd.

"Os yw'r broses am gymryd mwy o amser mae angen sicrhau ein bod yn cael rhywun cymwys."

Ail hybysebu

Y disgwyl yw i'r swydd gael ei ail hysbysebu o fewn y dyddiau nesaf, ac mae'n debyg mai yn y flwyddyn newydd y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal.

Mae rôl y cadeirydd yn galw am ymrwymiad amser o ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos ar gyflog o bron i £44,000 y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Ballet Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ballet Cymru yn un o'r sefydliadau sy'n derbyn grantiau gan Gyngor y Celfyddydau

Nid dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fethu â phenodi unigolyn i swydd gyhoeddus.

Fe fethodd panel â phenderfynu ar olynydd i'r Comisiynydd Plant y llynedd.

'Tu hwnt i'n rheolaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd yna dri ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, ond yn dilyn hynny fe benderfynodd dau dynnu yn ôl o'r broses.

"Yn amlwg, mae hyn yn siomedig, ond tu hwnt i'n rheolaeth ni.

"Roeddem yn teimlo'n gryf y dylai'r cyhoedd, sydd yn y pen draw yn cyllido'r sefydliad pwysig yma, weld cystadleuaeth briodol am rôl fel hon ac felly mae'r penderfyniad wedi ei gymryd i ail hysbysebu."

Ychwanegodd: "Rydym yn credu y bydd y cyhoedd yn parchu ein penderfyniad yn yr amgylchiadau yma. Rydym dal yn credu y bydd yna gadeirydd newydd yn y swydd erbyn mis Ebrill."