Ffigyrau cymysg yn ardaloedd menter Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 1,000 o swyddi wedi eu creu yn ardaloedd menter Caerdydd a Glannau Dyfrdwy yn 2014-15 ond dim ond saith swydd gafodd eu creu yng Nglyn Ebwy a Sain Tathan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sy' wedi dewis saith ardal fenter yng Nghymru, fod "y cynnydd yn dda".
"Mae pob ardal yn unigryw," meddai, "a does dim pwynt cymharu."
Pwrpas yr ardaloedd yw rhoi cefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys cymorth ariannol, i gwmnïau.
£70m
Cafodd £70m ei fuddsoddi yn yr ardaloedd menter ers 2011.
Rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015 fe ddyblodd Caerdydd nifer y swyddi gafodd eu creu ers sefydlu'r ardal yn 2011.
Cafodd 536 o swyddi eu creu mewn 12 mis tra oedd 465 rhwng cychwyn y fenter a mis Mawrth 2014.
Cafodd Glannau Dyfrdwy gyfnod llwyddiannus - creu 473.5 swydd yn 2014-15 tra oedd 779 o'r blaen.
Ond yng Nglyn Ebwy - ardal fenter sy'n canolbwyntio ar uwch-dechnoleg a gweithgynhyrchu - dim ond 7.5 o swyddi newydd gafodd eu creu tra oedd cyfanswm o 172 cyn Mawrth 2014.
Mae Sain Tathan yn canolbwyntio ar faes tebyg a dim ond 7.5 swydd gafodd eu creu i ychwanegu at y cyfanswm o 94 ers sefydlu'r fenter.
Yn Aberdaugleddau cafodd 49.5 swydd newydd eu creu yn 2014-15 i ychwanegu at y 208 cyn hynny.
Roedd 37 o swyddi ychwanegol ar Ynys Môn - 435 gafodd eu creu hyd at fis Mawrth 2014.
Yn Eryri, meddai Llywodraeth Cymru, roedd dau fusnes yn derbyn cefnogaeth erbyn hyn. Un oedd yn rhan o'r fenter hyd at fis Mawrth 2014.
Gwrthod cyhoeddi
Yn wreiddiol, roedd cadeiryddion yr ardaloedd menter a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi ffigyrau'r ardaloedd unigol.
Fe gefnogodd y Comisiynydd Gwybodaeth alwad Plaid Cymru i orfodi gweinidogion i wneud y manylion yn gyhoeddus.
Dywedodd AC Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mae angen i'r ardaloedd fod yn fwy nac enw...mi ddylen nhw arwain at dwf a swyddi."