Taro a ffoi: Gwahardd dyn o Borth Tywyn rhag gyrru
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Heol Newydd yng Nghydweli
Mae dyn 19 oed wedi ei wahardd rhag gyrru ar ôl cyfaddef taro awdur lleol a ffoi wedi'r digwyddiad.
Cafodd Julian Ruck, awdur a cholofnydd o Gydweli, anafiadau difrifol i'w ben a'i goes ar 17 Hydref.
Yn Llys Ynadon Llanelli fe wnaeth Brogan Griffiths o Borth Tywyn gyfaddef gyrru heb y gofal a'r sylw dyladwy a methu â stopio wedi gwrthdrawiad.
Cafodd Griffiths ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, dedfryd o 20 wythnos wedi ei gohirio am ddwy flynedd a bydd rhaid iddo wneud 250 awr o waith yn ddi-dâl.
Hefyd bydd rhaid iddo dalu £455 o ddirwy a chostau.
Mae Mr Ruck yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.