Dynes wedi marw ar ol cael ei tharo gan fan ym Merthyr
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddynes yn cerdded gyda dyn ar ochr yr A465 rhwng Pant a Dowlais
Mae dynes 41 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan ym Merthyr Tudful.
Roedd y ddynes yn cerdded gyda dyn oddi wrth gerbyd oedd wedi torri lawr ar ochr yr A465 - Ffordd Pen y Cymoedd - rhwng Pant a Dowlais am tua 19:15 ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu'r De ei bod wedi dioddef anafiadau angheuol, ac mae ei theulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu ar 101.