Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dwy lori

  • Cyhoeddwyd
Traffic Wales camera footage of queuing trafficFfynhonnell y llun, Traffic Wales

Mae dyn wedi'i arestio dau ddyn arall wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dwy lori ar yr A40 yn Sir Fynwy.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Lanfihangel Troddi am 05:50 fore Gwener ac roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Trefynwy a Rhaglan yn dilyn y digwyddiad. Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.

Dywedon nhw fod dyn 50 oed o ardal Casnewydd wedi'i arestio o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod y ddau sydd wedi'u hanafu wedi'u cymryd i Ysbyty Nevill Hall gydag anafiadau difrifol.

Yn dilyn y gwrthdrawiad cyntaf, fe ddioddefodd dau o bobl fân anafiadau mewn gwrthdrawiad ar ochr arall y ffordd ar ôl i gar daro yn erbyn y rhwystr ar y llain galed.

Mae pedwar criw o'r gwasanaeth tân, heddlu ac ambiwlans wedi mynychu'r digwyddiad.