Diffodd tân teiars yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Tân

Mae tân coed a theiars oedd wedi llosgi trwy'r nos yn Sir Gaerfyrddin wedi ei ddiffodd.

Fe gafodd griwiau o Dymbl a Llandeilo eu gyrru i'r digwyddiad ar fferm ym Maesybont, Llanarthne, am 20:40 nos Iau.

Cafodd chwistrellwr dŵr arbennig - Cold Cut Cobra - sydd ar dreial gyda'r gwasanaeth ei ddefnyddio i drechu'r fflamau.

Roedd y tân wedi ailgynnau ac roedd y gwasanaethau brys yn parhau yno fore Gwener.

Fe gafodd uned amddiffyn yr amgylchedd ei yrru hefyd i leihau'r risg o lygredd.