Y fwled yn y waled

Y cynghreiriaid yn glanio yn Gallipoli
Image caption Y cynghreiriaid yn glanio yn Gallipoli

Unwaith eto mae hi'n amser i gofio aberth miliynau o bobl gollodd eu bywydau yn y ddau ryfel byd a brwydrau eraill. Bydd cyfres newydd 'Cymry 1914-1918' yn dechrau ar BBC Radio Cymru ar 9 Tachwedd yn olrhain hanes y Cymry fu'n gwasanaethu yn ystod y Rhyfel Mawr.

Bydd y rhaglen gyntaf yn trafod cyfraniad milwyr o Gymry ym mrwydr Gallipoli rhwng Ebrill 1915 a Ionawr 1916. Cynhyrchydd y gyfres yw Dinah Jones. Mae hi'n sôn wrth Cymru Fyw sut y cafodd hi ei hysgogi gan brofiadau ei theulu i ymddiddori yn rhai o hanesion y rhyfeloedd mawr:


'Un o blant y rhyfeloedd mawr'

Cefais fy magu yn sŵn hanesion dau ryfel byd. Roedd fy nhad yn y Marines yn yr Ail Ryfel Byd a fy nau dadcu wedi dod i ben ag osgoi marwolaeth o drwch blewyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf - un ar y mȏr a'r llall yn y ffosydd yn Ffrainc.

Er i mi gael fy ngeni 16 mlynedd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, des i'n raddol i feddwl am fy hun fel un o blant rhyfeloedd mawr yr ugeinfed ganrif. Rwy'n cofio poeni'n hunan yn dost yn y 60au a'r 70au y byddai fy mrawd yn cael ei alw lan i ymladd mewn rhyfel byd arall. Wedi'r cyfan, dyna oedd wedi digwydd i ddynion y teulu ers dwy genhedlaeth.

Roedd dodrefn, llestriach a phob math o greiriau o gwmpas y tŷ oedd yn fy nghysylltu gyda theulu oedd wedi hen farw. Yn ein hystafell fyw, roedd 'na ddreser ddaeth o hen gartref teulu fy nhad yn ardal Pren-Gwyn, ger Llandysul. Arni, roedd 'na tureen oedd yn rhan o set lestri cinio fy mamgu. Ac yn hwnnw roedd 'na waled fach ledr.

Yn y waled, roedd 'na fwled, tua modfedd o hyd, oedd wedi gwneud gwȃl i'w hunan yn y lledr. Saethwyd hon gan Almaenwr at fy nhadcu yn 1917. Y stori oedd bod y llawfeddyg dynnodd y fwled o'i frest wedi ei rhoi iddo gan ddweud, mewn acen Seisnigaidd posh iawn, "Well, Jones, I don't know where your heart was when you were shot". Wedi'r rhyfel, roedd fy nhadcu wastad yn cadw'r waled ym mhoced ei got.

Image copyright Dinah Jones
Image caption Fy nhadcu, Benjamin Thomas Jones

Erchylldra rhyfel y ffosydd

Bu farw Benjamin Thomas Jones, neu Ben Pandy, fel y'i gelwid, pan roeddwn yn naw oed. Brith gof sydd gen i ohono: dyn gymharol dal fu unwaith yn löwr ifanc cryf, yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn yrrwr lorri mewn chwarel. Ond yr atgofion sydd gyda fi ohono yw o ddyn yn ei henaint ac yn dechrau gwaelu, yn fy nghasglu o'r ysgol yn ei gar Morris Minor i fynd am wersi piano.

Daeth o deulu tlawd, gweithiodd yn galed drwy ei oes, ac roedd yn un o'r miloedd o ddynion brofodd erchylldra rhyfel y ffosydd gyda'r llau, y llygod mawr a chysgod marwolaeth. Ychydig adawodd i'w blant yn ariannol neu'n faterol ond fe adawodd y fwled, sydd wedi profi'n waddol cyfoethog.

I fy mam, roedd yn gysylltiad ȃ thad annwyl fu'n gefn iddi hi a'i brawd ar ȏl i'w mam farw pan roedden nhw'n blant. Roedd y fwled hefyd yn symbol o'i ddycnwch ac yn destun diolch ei fod wedi cael byw.

Bob nawr ac yn y man yn fy mhlentyndod byddai'r awydd i fusnesa yn y tureen yn drech, ac fe fyddem yn tynnu'r waled ledr allan a byseddu'r fwled fach, oedd yn llyfn ac yn oer yn fy llaw.

A thrwy hynny byddem yn cyffwrdd ȃ gorffennol y teulu oedd wedi bod ar drugaredd y digwyddiadau mawr sgubodd drwy'r byd rhwng 1914 ac 1918. Cael a chael oedd hi a fyddai fy nhadcu yn cael byw neu beidio. Mae'n ein hatgoffa hefyd mai rhyw hap a damwain yw hi ein bod yn cael bod yma o gwbl.

Image copyright Dinah Jones
Image caption Fi a fy nhadcu

Carcharu gan yr Almaenwyr

Roedd tad fy nhad wedyn yn forwr, ac yn 1917, ar daith o Dde Africa, suddwyd ei long gan long ryfel Almaenaidd ym Mȏr De Iwerydd. Cafodd ef a gweddill y criw eu dal yn garcharorion gan yr Almaenwyr ar eu llong am bron dri mis.

Cafodd ei ryddhau yn y pendraw ac mae ei lythyron adre at fy mamgu a'i blant, oedd yn byw yn Aberaeron ar y pryd, yn dod ȃ hanes yn fyw am dadcu fu farw bron i 40 mlynedd cyn i mi gael fy ngeni.

Gyda threigl amser, mae fy niddordeb wedi cynyddu yn yr hanesion yma oedd yn gymaint rhan o'm magwraeth. Yn blentyn, roedden nhw'n straeon llawn rhamant a chyffro ond wrth fynd yn hŷn, daeth 'na gydymdeimlad a dealltwriaeth aeddfetach o effaith y digwyddiadau hyn ar y ddau dadcu ond hefyd ar eu teuluoedd.

Am y tro cyntaf y llynedd es i a mrawd i ymweld a chartref fy nhad, yn ystod y rhyfel, yn Aberaeron. Yno, roeddwn yn gallu dychmygu fy mamgu yn llawn gofid yn disgwyl am wybodaeth am ei gŵr, yn derbyn telegram gan berchnogion y llong am ei thynged.

Tan hynny, roedd fy mamgu, a fu farw yn 1944 yn ddim llawer mwy na enw, gyda dyddiad geni a marw, o fewn clawr Beibl y teulu ac yn wyneb fflat, dau ddimensiwn, mewn llun.

Yn sydyn, daw'n berthynas o gig a gwaed, yn cerdded at ddrws y tŷ pan glyw'r post yn cyrraedd, yn sefyll ar dop yr ardd serth y tu ȏl i'r tŷ yn edrych allan ar Fae Ceredigion a'r mȏr tu hwnt, yn dyfalu a oedd fy nhadcu yn fyw neu'n farw. Ac wrth ei sgert mae fy nhad, yn dair oed, yn ceisio deall beth sy'n digwydd a cheisio cofio wyneb tad oedd byth adref.

Mae ymchwilio i hanes fy nheulu wedi bod yn brofiad emosiynol ac anodd ei ddirnad ar adegau. Pam ddylem deimlo i'r byw am berthnasau nad oeddwn yn eu hadnabod?

Mae gweld selebs yn wylo dros dynged teulu pell yn ȏl ar raglenni hel achau yn beth cyfarwydd. Pwy all anghofio'r emosiwn dwys ar wyneb y newyddiadurwr caled Jeremy Paxman pan ddaeth i wybod am dlodi enbyd ei hen hen famgu?

Daeth yn amlwg bod y rhyfel wedi bod yn ddylanwad pwysig yn hanes ein teulu ni. Roedd unigolion ar drugaredd digwyddiadau ymhell o Gymru ac roedd effaith hynny i'w deimlo am ddegawdau i ddod.

Bu farw Jack Lloyd Jones yn gymharol ifanc ar ȏl y rhyfel. Dywedodd fy modryb nad oedd ei iechyd yn dda ar ȏl ei brofiadau yn 1917 a'r gred oedd iddo farw o effeithiau'r amser hynny. Gadawodd hynny fy mamgu yn wraig weddw i gynnal tri o blant. Doedd bywyd ddim yn rhwydd iddi.

I mi felly mae dod i wybod, deall a chofio am y rhyfel yn bwysig. Mae'n rhan o ddeall pwy ydw i. Mae gwneud y gyfres i BBC Radio Cymru am y Rhyfel Byd Cyntaf, dros bum mlynedd y cofio, yn rhyw fath o ymestyniad i hynny.

Y bwriad yw creu darlun o Gymru a'i phobl yn ystod cyfnod y rhyfel drwy gyflwyno unigolion yn eu geiriau'u hunain neu drwy atogfion pobl heddiw ohonynt. Bydd yn gyfres i gofnodi straeon personol a theuluol, gan greu, gobeithio, rhyw fath o hanes teuluol cenedlaethol.

Cymry 1914-1918: Y Rhyfel yn Gallipoli, BBC Radio Cymru, Dydd Llun, 9 Tachwedd, 12:31

Image copyright Dinah Jones
Image caption Fy nhad gyda'i rieni, Jane Jones a Chapten Jack Lloyd Jones flwyddyn neu ddwy ar ȏl i'w long suddo ym Môr De Iwerydd yn 1917