Cwmni meddygol yn creu 50 swydd yn y Rhyl a Phen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni'n cynhyrchu nwyddau meddygol fel slingiau, gwelyau a lifftiau
Mae cwmni sy'n cynhyrchu cyfarpar meddygol yn ehangu, gan greu 50 o swyddi ar ddau safle yng Nghymru.
Bydd 21 swydd newydd yn ffatri Prism Medical UK ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 29 swydd newydd ym Mae Cinmel ger y Rhyl.
Mae Prism Medical UK wedi derbyn pecyn cymorth gwerth £363,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu'r swyddi newydd a diogelu'r 135 swydd bresennol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Roedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru'n hollbwysig ar gyfer cynnal y ddwy ffatri sydd gennym yng Nghymru.
"Rwy'n falch dros ben ein bod yn llwyddo i gadw a chreu swyddi i weithwyr â lefel uchel o sgiliau yn y Rhyl a Phen-y-bont ar Ogwr."