Ymchwilio bar ym Mhorthcawl wedi i 50 fynd yn sâl
- Cyhoeddwyd

Mae'r awdurdodau'n ymchwilio wedi i tua 50 o bobl fynd yn sâl ar ôl ymweld â bar ym Mhorthcawl.
Cafodd gwestai digwyddiad preifat ym mar yr Hi-Tide eu taro'n wael gyda symptomau fel dolur rhydd a chyfog.
Mae'r cleifion i gyd yn gwella adref.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio er mwyn sefydlu beth oedd yn gyfrifol am y salwch.
Mae'r bar dal ar agor a does dim risg i unrhyw un na fynychodd ddigwyddiad preifat yn y bar yn gynharach yn yr wythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran bar Hi-Tide:
"Rydym yn cydweithio'n llawn gydag ymchwiliad y cyngor, ac maen nhw wedi rhoi caniatad i ni barhau i fasnachu yn y cyfamser.
"Hoffwn sicrhau cwsmeriaid ein bod yn ystyried materion iechyd a hylendid o ddifri ac yn monitro paratoi bwyd yn unol â safonau'r diwydiant."