Dyn o Gaernarfon: Gwadu ceisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaernarfon wedi cyfaddef iddo ymosod ar ei wraig gyda'r bwriad o achosi niwed difrifol iddi.
Ond fe wnaeth Sylvan Maurice Parry, 46 oed, wadu ei fod wedi ceisio ei llofruddio mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug lle roedd yn siarad drwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl.
Fe blediodd yn euog i achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Fiona Thomas Parry, 42 oed, ar 3 Medi yng Nghaernarfon eleni.
Plediodd yn ddieuog i honiad o geisio ei llofruddio.
Bydd yr achos llawn yn ei erbyn yn cael ei gynnal yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 22 Chwefror, yn dibynnu os yw barnwr Cymraeg ei iaith ar gael ar gyfer yr achos.
Cafodd Parry ei gadw yn y ddalfa ac nid oedd cais i'w ryddhau ar fechnïaeth.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar lwybr ger Cefn Cadnant rhwng Ffordd Llanberis a Maesincla yng Nghaernarfon.
Cafodd Mrs Parry ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad ac fe fu dan ofal meddygon yn Ysbyty Stoke am gyfnod, lle roedd ei chyflwr wedi ei ddisgrifio fel un "difrifol".
Yn ddiweddarach fe gafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd ac mae hi bellach wedi dychwelyd adref.
Dywedodd y bargyfreithiwr Sion ap Mihangel ar ran yr erlyniad y byddai'r erlyniad yn ceisio derbyn y wybodaeth feddygol ddiweddaraf yn yr achos yma.