Cynghorydd yn ddieuog o flacmel

  • Cyhoeddwyd
Christopher O'NealFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Christopher O'Neal yn cynghorydd tref a sir

Mae cynghorydd sir o'r gogledd wedi ei gael yn ddi-euog o honiad o flacmel.

Fe wnaeth y diffynydd Christopher James O'Neal, 36 oed, grïo mewn rhyddhad yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn dilyn y dyfarniad.

Dywedodd O'Neal ei fod yn falch fod yr "hunllef drosodd".

"Dwi mor falch fod hyn i gyd ar ben", meddai.

"Mae wedi bod yn mynd ymlaen ers dwy flynedd. Fe hoffwn i ddiolch i'r rheithgor am ddod i'r casgliad cywir. Rwan fe alla i fynd ymlaen gyda fy mywyd."

Dywedodd fod ei bartner yn disgwyl gefeilliaid ym mis Ebrill ac ei fod am symud ymlaen.

Fe honnwyd fod Mr O'Neal, sydd yn gynghorydd gyda Chyngor Tref Bangor a Chyngor Gwynedd, wedi bygwth datgelu llun o ddyn, sydd â'i enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw, y tu allan i'w fusnes.

Cyhuddiad

Roedd y cyhuddiad yn dyddio'n ôl i 27 Rhagfyr 2013.

Dywedodd yr erlyniad wrth y rheithgor bod Mr O'Neal wedi targedu'r gŵr busnes, cyn iddo yntau fynd at yr heddlu.

Cyhuddodd yr erlyniad Mr O'Neal o fynnu taliad o £7,500 neu fe fyddai llun o'r dyn yn ymddangos yn y wasg mewn erthygl yn disgrifio troseddwr rhyw yn rhedeg busnes.

Fe wnaeth yr heddlu olrhain yr alwad ffôn i ffôn symudol partner y diffynnydd ac fe gyfaddefodd Christopher O'Neal iddo wneud yr alwad, ond fe wadodd ei fod wedi mynnu taliad.