Deiseb yn galw ar gyngor i wella diogelwch llyn

  • Cyhoeddwyd
Sue Mansfield
Disgrifiad o’r llun,
Sue Mansfield

Mae teulu dyn 18 oed a fu farw mewn llyn ger tre Penfro wedi dechrau deiseb yn galw ar y cyngor sir i wella mesurau diogelwch o amgylch y safle.

Robert Mansfield oedd y trydydd person i farw yn Llyn y Felin eleni.

Roedd o wedi bod allan yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed ar 27 Gorffennaf.

Mae disgwyl i'r cwest i'w farwolaeth gael ei glywed ar 26 Tachwedd.

Mae ei fodrub Sue Mansfield wedi bod yn siarad gyda BBC Cymru am effaith ei farwolaeth ar y teulu.

Disgrifiad o’r llun,
Arwydd perygl ger y llyn

Nawr mae hi wedi dechrau deiseb ar-lein yn annog cynghorwyr lleol i wneud rhywbeth i wella safonau diogelwch ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r peryglon.

Eisoes mae cyngor tre Penfro wedi trafod y mater, ond maen nhw a Chyngor Sir Penfro wedi mynegi amheuon am ba mor ymarferol byddai gwneud safle mor fawr yn gwbl ddiogel.

Fis diwethaf fe wnaeth crwner Sir Benfro benderfynu bod Wayne Young wedi marw o ganlyniad i ddamwain, ar ôl iddo lithro lawr llethr i'r llyn ar 1 Ionawr, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 52 oed.

Ym mis Awst penderfynodd llys y crwner fod John Lyall, 57 oed, wedi marw yn ddamweiniol ar ôl iddo gael ei weld yn llithro am yn ôl i'r llyn ar 16 Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,
Cofeb Robert Mansfield