Cynnal gwasanaethau Sul y Cofio drwy Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau o'r lluoedd arfog â'r llynges fasnachol ynghyd a fflyd o gychod pysgota wedi gorymdeithio drwy ganol Caerdydd mewn gwasanaeth arbennig i nodi dau funud o dawelwch fel rhan o ddigwyddiadau Sul y Cofio.
Cafodd gorymdeithiau a gwasanaethau tebyg eu cynnal ledled Cymru, yn cynnwys Wrecsam, Abertawe, Aberystwyth a Llandudno.
Cafodd Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yn y brifddinas ei drefnu ar y cyd gan y Lleng Brydeinig, Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Roedd yr orymdaith yn dechrau o Rodfa'r Brenin Edward VII trwy Rodfa'r Amgueddfa i Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays.
Fe wnaeth colofnau o gyn-filwyr a cholofnau o sifiliaid sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro o'r gorffennol a'r presennol ymuno yn y gweithgareddau.
Gwasanaeth
Cafodd torchau eu gosod wrth y Gofeb gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Dr Peter Beck, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi De Morgannwg, Dr Peter Beck a Phil Bale, arweinydd cyngor Caerdydd.
Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yn rhoi'r cyfle i ni dalu teyrnged i'r rheiny sydd wedi colli eu bywydau mewn gwrthdaro. "Eleni fe wnaethom ni ddathlu 70 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i dalu teyrnged i aelodau'r lluoedd arfog sydd wedi rhoi eu bywydau i ni gael rhyddid heddiw."
Dywedodd Phil Jones, Rheolwr Ardal Cymru, y Llynges Brydeinig Frenhinol: "Mae Sul y Coffa yn rhoi'r cyfle i ni gymryd seibiant o'n bywydau prysur a myfyrio am y rheiny sydd wedi ymladd ac sy'n dal i ymladd drosom. Mae'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn cofio am y rheiny sydd wedi'n gadael, ond hefyd am y gobaith ar gyfer dyfodol y byw."
Yn Aberystwyth cafodd torchau o babi coch a phabi gwyn eu cyflwyno gan y Lleng Prydeinig a Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder y dref.