Pysgotwr a ddisgynnodd i Afon Tawe yn dal ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae pysgotwr a gafodd ei weld yn disgyn i Afon Tawe ger loc camlas Tawe yn dal ar goll, meddai'r heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi hanner nos fore Sadwrn.
Mae Heddlu De Cymru am adolygu'r sefyllfa cyn penderfynu os ydyn nhw am barhau gyda'r chwilio.
Mae Tîm Achub Gwylwyr y Glannau, hofrennydd yr awyrlu o Sain Tathan, a'r heddlu wedi bod yn chwilio am y dyn.