Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol yn Llanelli.
Bu farw Simon Lee Bell yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Dillwyn yn y dref rhwng 19:45 a 20:15 ar nos Wener 6 Tachwedd.
Mae dau ddyn lleol, un yn 52 oed a'r llall yn 30 oed, wedi eu harestio ac mae'r ddau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn ardal Stryd Dillwyn yn ystod y cyfnod yma sy'n ymwybodol o ffrwgwd i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.
Bu farw Simon Lee Bell yn dilyn yr ymosodiad nos Wener