Gweinidog yn agor cynllun llifogydd yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
RhylFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddioddefodd y Rhyl effaith llifogydd yng ngaeaf 2013

Bydd cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Llun.

Bydd yr amddiffynfeydd newydd yn gwarchod dros 2,700 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd.

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, fydd yn agor y cynllun, ac fe fydd yn archwilio cam olaf y gwaith, sy'n cynnwys wal gynnal arfordirol a wal donnau a fydd yn amddiffyn eiddo yn y dref.

Bydd promenâd lletach, newydd hefyd i'r ymwelwyr sy'n dod i fwynhau'r traeth yn y Rhyl, gan helpu adfywio'r ardal.

Bydd prosiect gorllewin y Rhyl yn costio ychydig dros £15m gyda dros £10m yn dod o goffrau Llywodraeth Cymru, £4.5m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £520,000 gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd y Gweinidog yn cwrdd â thrigolion lleol sydd wedi gwirfoddoli i fod yn wardeiniaid llifogydd.

Bydd pob warden yn gyfrifol am 12 - 15 eiddo ac yn rhoi cyngor a chanllawiau i'r preswylwyr am faterion llifogydd.

Ffynhonnell y llun, Stuart Williams

Cynllun rhybuddio llifogydd

Ymgyrch ddiweddaraf y wardeiniaid yw targedu'r cartrefi sydd heb gofrestru ar gyfer cynllun di-dâl Cyfoeth Naturiol Cymru i rybuddio rhag llifogydd.

Dywedodd Carl Sargeant: "Mae hwn yn brosiect pwysig o ran rheoli perygl llifogydd ar yr arfordir. Bydd llai o risg o ddŵr môr yn gorlifo i mewn i 2,700 o gartrefi a busnesau yn y Rhyl a bydd yr economi leol yn elwa hefyd, a rhagor o ymwelwyr yn dod i'r dref."