Caerdydd 2-0 Reading
- Cyhoeddwyd

Daeth cyfnod clwb Caerdydd heb sgorio goliau i ben bnawn Sadwrn gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Reading.
Kenwyne Jones oedd chwaraewr cyntaf yr Adar Gleision i sgorio ers 3 Hydref, wrth iddo benio'r bêl i'r rhwyd cwta funud cyn hanner amser.
Llwyddodd Matt Connolly i sgorio gyda pheniad yn dilyn cic gornel, ac fe lwyddodd David Marshall i wneud sawl arbediad campus i gadw Reading rhag sgorio.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn mynd yn uwch na Reading i'r seithfed safle yn y tabl, a thri phwynt i ffwrdd o'r safleoedd gemau ail-gyfle.
Llawenydd - a rhyddhad - felly i gefnogwyr Caerdydd, wedi cyfnod mor hesb dros y mis diwethaf.